Joseph yn dangos Synwyryddion Aer yn yr ystafell ddosbarth

Galluogi plant i weithredu: monitro a gweithredu i fynd i'r afael ag ansawdd aer dan do

A photo of the person.
Joe Smith
27/6/2025

Yn ddiweddar, mae sgyrsiau ynghylch ansawdd aer a'i effaith ar iechyd wedi cael sylw mawr. Wrth i bryder am lygredd aer barhau i dyfu, mae hi wedi dod yn gynyddol bwysig deall sut rydym yn cael ein heffeithio, sy'n arbennig o bwysig yn ein cartrefi a'n gweithleoedd. Dyma pam ein bod wedi rhoi synwyryddion aer personol i blant i fesur lefelau llygredd yn eu hamgylchedd. Dros y misoedd diwethaf, rydym wedi cael y fraint o weithio gyda disgyblion o Ysgol Morswyn ac Ysgol Llanfechell.

Mae'r syniad y tu ôl i'r prosiect yn syml ond yn bwerus: drwy roi synwyryddion aer personol i blant, rydym yn eu galluogi i gymryd rhan mewn deall a mynd i'r afael â llygredd aer. Mae'r dyfeisiau bach, cludadwy hyn yn mesur deunydd gronynnol (PM1, PM2.5 a PM10), sef gronynnau bach iawn yn yr aer a all gael goblygiadau iechyd wrth eu hanadlu. Mae'r plant yn mynd â'r synwyryddion adref, gan ganiatáu iddynt gasglu data ar ansawdd aer yn oddefol yn eu hamgylchedd uniongyrchol. Gall y rhain gynnwys unrhyw le o'u hystafelloedd byw, ceginau, neu hyd yn oed eu gerddi.

Yn y ddwy ysgol, croesawodd y disgyblion y cyfle i gael mesur eu hansawdd aer. Fe wnaethant ddysgu am ffynonellau llygredd, sut mae'n effeithio er eu hiechyd, a pham bod monitro lefelau llygredd yn bwysig. Daeth y mewnwelediadau mwyaf gwerthfawr yn ystod y cam dadansoddi. Roedd gan y plant fap o'u hardal leol ac fe wnaethant nodi'r lleoedd yr oeddent yn teimlo oedd â lefelau uwch o lygredd. Beth oedd yn nodedig oedd gallu cynhenid y plant i nodi'r lleoedd yr oeddent yn credu oedd yn llygredig yn gywir.

Y canfyddiadau: stofiau llosgi coed ac ansawdd aer dan do

Un o'r canfyddiadau mwyaf nodedig o'r ddwy ysgol oedd effaith sylweddol stofiau llosgi coed ar ansawdd aer dan do. Mae llawer o'r plant yn byw mewn cartrefi lle mae stofiau llosgi coed yn cael eu defnyddio i wresogi'r tŷ, yn enwedig yn ystod y gaeaf. Er bod y stofiau hyn yn creu awyrgylch clyd, datgelodd y data eu bod hefyd yn rhyddhau symiau sylweddol o ddeunydd gronynnol i'r aer.

Mewn sawl achos, fe wnaeth y synwyryddion ganfod lefelau PM2.5 a oedd yn uwch na'r terfynau diogelwch a argymhellir, yn enwedig mewn ystafelloedd lle'r oedd y stofiau'n cael eu defnyddio. Roedd hyn yn ddatguddiad i'r plant a'u teuluoedd, gan nad oedd llawer ohonynt yn ymwybodol o'r risgiau iechyd posibl sy'n gysylltiedig â llosgi coed. Ysgogodd y data sgyrsiau pwysig am gydbwyso cost gwresogi â'r angen am aer glân.

Pam fod hyn yn bwysig?

Mae canfyddiadau Ysgol Morswyn ac Ysgol Llanfechell yn amlygu mater ehangach: yr angen am fwy o ymwybyddiaeth o lygredd aer dan do. Er bod ansawdd aer yn yr awyr agored yn aml yn cael sylw yn y penawdau, gall yr aer yn ein cartrefi fod yr un mor llygredig - os nad yn fwy llygredig. Gall stofiau llosgi coed, tra'n ffynhonnell wres draddodiadol y mae pobl yn hoff ohonynt, gyfrannu'n sylweddol at y broblem hon.

Mae hwn yn fater hollbwysig i blant, sy'n arbennig o agored i effeithiau llygredd aer. Gall dod i gysylltiad â lefelau sylweddol o ddeunydd gronynnol arwain at broblemau anadlu, gwaethygu asthma, a hyd yn oed effeithio ar ddatblygiad gwybyddol. Trwy gynnwys plant yn y broses o fesur a deall ansawdd aer, rydym yn codi ymwybyddiaeth ac yn creu ymdeimlad o reolaeth a chyfrifoldeb.

Beth nesaf?

Mae llwyddiant y prosiect hwn yn Ysgol Morswyn ac Ysgol Llanfechell wedi ein hysbrydoli i ehangu ein hymdrechion. Rydym yn bwriadu ymweld â mwy o ysgolion, arfogi mwy o blant â synwyryddion, a pharhau i gasglu data ar ansawdd aer mewn gwahanol leoliadau. Ond y tu hwnt i gasglu data, ein nod yw ysgogi newid ystyrlon. Rydym yn cydweithio â chymunedau lleol i rannu arferion gorau ar gyfer lleihau llygredd aer dan do, megis sicrhau awyru priodol, defnyddio tanwydd sy’n llosgi’n lanach, a chynnal a chadw stofiau pren i leihau allyriadau.

Rydym hefyd yn annog ysgolion a theuluoedd i feddwl yn greadigol am sut y gallant wella ansawdd aer yn eu cartrefi. Gall camau syml, fel agor ffenestri'n rheolaidd, defnyddio peiriannau puro aer, neu hyd yn oed newid i ddulliau gwresogi amgen, wneud gwahaniaeth sylweddol.

Galwad i weithredu

Mae llygredd aer yn fater cymhleth, ond mae’n un y gallwn fynd i’r afael ag ef gyda’n gilydd. Drwy rymuso plant gyda’r offer a’r wybodaeth i fesur a deall ansawdd aer, rydym yn plannu’r hadau ar gyfer dyfodol iachach, mwy cynaliadwy. Mae disgyblion Ysgol Morswyn ac Ysgol Llanfechell wedi dangos i ni y gall hyd yn oed aelodau ieuengaf ein cymuned chwarae rhan hanfodol yn yr ymdrech hon.

Gweithio tuag at ddyfodol sy'n blaenoriaethu lles pobl a'r blaned.
Caiff y Llwyfan Map Cyhoeddus ei arwain gan Brifysgolion Caergrawnt, Caerdydd a Wrecsam ac mae’n rhan o raglen ymchwil genedlaethol The Design Museum ar gyfer pontio gwyrdd, sef ‘Future Observatory’. Caiff ei ariannu gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau.