Mae’r ddelwedd yn darlunio celfwaith digidol haniaethol gyda llinellau a siapiau tebyg i nodau rhyng-gysylltiedig neu rwydwaith cosmig. Mae’r cefndir yn ddu, sy’n debyg i’r gofod, gyda dotiau gwyn gwasgaredig yn cynrychioli’r sêr. Yn y canol, ceir dau siâp glas mwy, yr ymddengys bod un ohonynt fel atom neu niwclews a chanddo linellau’n troi o’i gwmpas, a’r llall yn debyg i fortecs yn chwyrlïo neu batrwm troellog. Mae llinellau glas main, disglair yn croesymgroesi’r ddelwedd, gan greu patrymau trionglog a geometrig, sy’n cysylltu’r ffurfiau canolog gyda’i gilydd a’r gwagle o’u hamgylch. Mae’r effaith gyffredinol yn ennyn ymdeimlad o ryng-gysylltedd, cymhlethdod, a delweddiad o rymoedd neu rwydweithiau anweledig yn yr hollfyd.

Beth Ydy Cynhwysiant a Pham y Mae’n Bwysig

A photo of the person.
Dr. Anne Collis
04/06/2024

Mae’n bosib bod prosiect y Llwyfan Map Cyhoeddus (PMP) yn unigryw o ran ei gymhlethdod a’i ymrwymiad i weithio mewn modd cynhwysol, o fewn y tîm amrywiol, ac o ran y modd y caiff gweithgareddau eu dylunio a’u cyflenwi.

Fel tystiolaeth o’r ymrwymiad hwnnw o’r cychwyn cyntaf, gofynnwyd i mi ymuno fel cynghorydd ac adnodd - neu fel y mae un aelod o’r tîm yn ei alw - fel ‘cynhyrfwr cyfeillgar’. Dim fy mod i wedi bwriadu bod yn gynhyrfwr, ond mae’n her i ni i gyd geisio canfod beth mae’n ei olygu i fod yn gynhwysol.

Rydym yn dal i ddysgu rhagor ynghylch sut i fod yn gynhwysol - felly rydw i am gadw hynny ar gyfer blog arall yn y dyfodol. Am rŵan, beth am feddwl am beth mae gweithio mewn modd cynhwysol yn ei olygu, a pham y mae cynhwysiant yn bwysig i’r prosiect PMP.

Penderfynais hefyd y byddwn yn canolbwyntio ar ymrwymiad PMP i weithio mewn modd cynhwysol o fewn y tîm ei hun. Mae hyn oherwydd bod cymaint o bobl wedi ysgrifennu ynghylch gweithio mewn modd cynhwysol gyda chyfranogwyr mewn gwaith ymchwil. Dywedir llai am weithio mewn modd cynhwysol fel tîm ymchwil.

Beth ydy ‘cynhwysiant’?

Nid gorfodaeth i gyflawni gofynion cyfreithiol a ninnau’n gwarafun gwneud hynny ydy cynhwysiant; mae’n ddathliad o bŵer amrywiaeth ac yn rhywle ym mhle mae pawb yn perthyn. Mae ganddo gymaint o agweddau gwahanol. Roeddwn i’n ofalus i beidio â methu rhai ohonyn nhw. Felly…

Mae gennyf gyfaddefiad: Mi dwyllais. Gofynnais i Claude.ai ysgrifennu disgrifiad manwl i mi o’r elfen ‘beth’, a gwiriais ei bod yn cynnwys pob agwedd y byddwn i wedi ysgrifennu yn ei chylch. A dyna wnaeth Claude, ac roedd yn cynnwys un ychwanegol - gewch chi ddyfalu pa un oeddwn i efallai wedi’i anghofio!

Dyma beth oedd gan Claude i’w ddweud:

  1. Ymrwymo a Grymuso: Mae cynhwysiant yn golygu mynd ati i sicrhau bod lleisiau a safbwyntiau amrywiol yn cael eu hymrwymo, eu gwerthfawrogi, a’u grymuso er mwyn cyfrannu a chyfranogi’n llawn.
  2. Ymdeimlad o Berthyn: Mae’n meithrin amgylchedd lle mae pawb yn teimlo eu bod yn cael eu croesawu, eu parchu, eu cefnogi, a’u bod yn rhan o’r uned gyfan.
  3. Mynediad a Chyfleoedd: Mae cynhwysiant yn ymwneud â mynd ati mewn modd rhagweithiol i ganfod rhwystrau a allai atal rhai unigolion neu grwpiau rhag cael mynediad i gyfleoedd, adnoddau, rhwydweithiau neu brofiadau, a dileu’r rhwystrau hynny.
  4. Dathlu Amrywiaeth: Mae’n cydnabod ac yn dathlu amrywiaeth fel cryfder, gan werthfawrogi nodweddion, profiadau, a chyfraniadau unigryw pob unigolyn.
  5. Trin Pobl yn Deg: Mae cynhwysiant yn hyrwyddo’r angen i drin pobl yn deg, gan sicrhau bod polisïau ac arferion yn ddiduedd, a’u bod yn darparu chwarae teg.
  6. Proses Barhaus: Mae meithrin a chynnal amgylchedd cynhwysol yn broses barhaus sy’n gofyn am fynd ati’n barhaus i ddysgu, bod yn hunanymwybodol, ac ymrwymo i wella pethau.


[Diolch, Claude!]

Un o’r pleserau i mi fel cynghorydd cynhwysiant fu gweld y tîm yn cydnabod yr angen i weithio gyda’i gilydd mewn modd cynhwysol, a nid dim ond gyda phobl sy’n cymryd rhan yn yr ymchwil.

Dychmygwch eich bod yn rhan o dîm ymchwil sy’n gweithio trwy gyfrwng dwy iaith, ar draws diwylliannau, gyda sawl sefydliad, amryw ddisgyblaethau academaidd, y mae gan bob un ei hiaith dechnegol ei hun, ynghyd ag amryw anghenion o ran mynediad a gwahanol arddulliau cyfathrebu.

Rwy’n cael fy rhyfeddu bob dydd gan barodrwydd y tîm i ddysgu, gwerthfawrogi gwahaniaethau a gweithio’n galed i gyfathrebu a maddau i unrhyw achosion o gamgyfathrebu.

Pam gwneud yr ymdrech?

Rwy’n eithaf sicr nad ydy unrhyw un yn y tîm eisiau creu rhagor o waith iddyn nhw eu hunain dim ond er mwyn gwneud hynny. Ac mae gweithio mewn modd cynhwysol, mewn tîm mor amrywiol, sy’n ymwneud â phrosiect mor gymhleth, yn gofyn am waith caled.

Felly, beth ydy’r manteision? Pam ddylech chi fuddsoddi’r ymdrech i weithio mewn modd cynhwysol fel tîm?

Hoffwn awgrymu dau reswm.

  1. Gall cyfuno gwahanol ddisgyblaethau academaidd, cefndiroedd diwylliannol, ieithoedd a phrofiad bywyd gyfrannu mewnwelediadau unigryw a chyfoethogi’r ymchwil.
    Mae yna hen chwedl Hindwstani am eliffant. Allai neb weld yr eliffant; gallai bob unigolyn gyffwrdd un rhan ohono. O ganlyniad i hynny, roedd bob unigolyn yn disgrifio’r eliffant mewn modd cwbl wahanol. Mae hynny fel gwneud ymchwil ond a chithau ond yn gallu defnyddio un ddisgyblaeth academaidd, un diwylliant, un iaith, un fath o brofiad byw. Dychmygwch gymaint mwy cyfoethog a chywir ydy’r darlun pan gaiff pob un o’r safbwyntiau unigol hynny eu cyfuno. Mae gweithio mewn modd cynhwysol yn gwneud hynny’n bosib. Po fwyaf o safbwyntiau a gewch, y mwyaf cyfoethog a chyflawn ydy’r darlun o’r ymchwil - ond y mwyaf heriol ydy’r dasg o weithio mewn modd cynhwysol.
  2. Mae dwyn yr amrywiaeth hon o safbwyntiau ynghyd yn dueddol o arwain at atebion arloesol a fflachiadau o ysbrydoliaeth.
    Yn sicr, mae angen y rhain arnom wrth i ni edrych at y dyfodol a chanfod modd i bontio i atebion gwyrdd. Mae gan y mapiau a gaiff eu creu trwy weithio mewn modd cynhwysol y potensial i arwain at well penderfyniadau gan unigolion, cymunedau a llywodraethau. Mae gweithio mewn modd cynhwysol yn lleihau’r risg y bydd gwaith ymchwil yn eistedd ar silff oherwydd nad ydy ei werth yn weladwy i’r rheiny y tu allan i’r byd academaidd.

Roeddwn wedi cynnwys llun o’m traethawd ymchwil doethurol gyda’r blog hwn. Fe’i crëwyd gan un o’r merched a fu’n cydweithio â mi ar ran allweddol o’r ymchwil hwnnw. Mae’n dwyn y teitl Cymhlethdod ac Amrywiaeth. I mi, mae’n crynhoi’r hyn y mae’r tîm ymchwil PMP yn datblygu i fod - sef ecosystem gymhleth o unigolion, y mae gan bob un ei safle gwahanol o fewn yr ymchwil, ac yn cyfrannu eu safbwyntiau a’u sgiliau unigryw.

Os ydy fy rôl yn helpu i wireddu hynny, byddaf yn ystyried bod y buddsoddiad ynof yn werth chweil.