Awaiting translationTwyni tywod a glaswellt gyda'r cefnfor ar y gorwel a thrawstiau haul yn dod trwy'r cymylau

Ymweld â safleoedd Ynys Môn gyda Cyfoeth Naturiol Cymru

Aeronwy Williams
03/04/2024

Bydd y prosiect Llwyfan Map Cyhoeddus yn mynd ar daith yr haf hwn, yn crwydro tirlun amrywiol, hyfryd Ynys Môn gyda gwyliau mapio yn Y Lle Llais. Bydd hwn yn gyfle gwych i blant, pobl ifanc a’u teuluoedd gael profiad ymdrochol, rhyngweithiol wrth fapio gwybodaeth arbrofol a gwybodaeth ymgysylltu, gan wneud cyfraniadau data go iawn at fap aml-haen Llwyfan Map Cyhoeddus; a gweithio tuag at Ddeddf Cenedlaethau'r Dyfodol (2015).

Mae dewis y safleoedd hyn wedi bod yn broses reddfol ac wedi’i hymchwilio’n ofalus. Y gobaith yw y bydd yn cynnig y profiad gorau i bawb, gan fod yn ymwybodol o’r ffactorau diwylliannol a chymdeithasol sy’n effeithio ar wahanol bobl ac ardaloedd Ynys Môn.

Ddydd Gwener 22 Mawrth, daeth tîm Llwyfan Map Cyhoeddus ynghyd ar Ynys Môn i fynd ar wibdaith o'r safleoedd sydd dan reolaeth Cyfoeth Naturiol Cymru. Gwnaethom logi bws mini gan gwmni teithio lleol, Hidden Anglesey, ac yn arwain ni drwy’r tirlun amrywiol oedd Justin Hanson o CNC.

Ymwelsom â sawl safle, ac roedd gan bob un ei nodweddion unigryw, ei hanes, a’i fioamrywiaeth ei hun. Da oedd dysgu am dair cors Ynys Môn, sef Cors Goch, Cors Bodeilio a Chors Erddreiniog, y mae’r cwbl yn Ardaloedd Cadwraeth Arbennig. Cawsom sgyrsiau rhyfeddol gan arbenigwr mawndiroedd Cymru, Dr Peter Jones MBE, ynghylch y Corsydd. Tynnodd sylw at yr ecosystemau bioamrywiol cyfoethog sy’n gartref i rai rhywogaethau prin a brodorol, yn ogystal â phwysleisio eu pwysigrwydd yn yr amgylchedd ehangach.

Dringasom yr Arwydd, sef copa Mynydd Bodafon, er mwyn cael persbectif awyrol o’r tir a sut mae'r corsydd wedi’u cysylltu ar draws yr Ynys. Mae’r tir yma yn gyfoeth o dreftadaeth ddiwylliannol ac yn lleoliad cysegredig i Dderwyddon.

Fel rhan o'r daith, aethom draw i Lyn Cefni a Nant y Pandy yn Llangefni. Dangosodd yr ardal hon bwysigrwydd y cysylltiad hwnnw â natur mewn amgylcheddau mwy trefol. Cyngor Ynys Môn sy’n gyfrifol am y safle hwn ond roedd yn lle nodedig i ymweld ag ef yn ystod ein taith, yn enwedig gan fod ein swyddfeydd wedi’u lleoli yn swyddfeydd Medrwn Môn yng nghanol y dref.

Daeth ein taith i ben yn Niwbwrch. Aethom draw i’r lleoliad cymunedol lleol, Sefydliad PJ - roedd fel camu’n ôl mewn amser. Amgueddfa yn cynnwys pob math o bethau yn cysylltu â gorffennol cyfoethog Niwbwrch yn niwylliant Cymru. Gwnaethom fentro drwy’r goedwig at y traeth a chawsom fwynhau golygfeydd godidog o'r mynyddoedd ar y tir mawr. Cawsom ein trochi ym manylion syfrdanol y safle. Dysgom mai dyma'r Warchodfa Natur Genedlaethol arfordirol gyntaf yng Nghymru ym 1955 a bod yma un o’r systemau twyni tywod gorau a mwyaf o ran maint ym Mhrydain, gyda'i daeareg arbennig a nodedig iawn.

temp alt

Magais gysylltiad cryfach â’r tir yn ystod y daith hon, gan ddysgu llawer mwy o ffeithiau newydd ynghylch yr ynys arbennig. Teimlaf falchder eithriadol fy mod yn hanu o’r rhan hyfryd hon o’r byd, sef Môn Mam Cymru.