Map nodau ar gefndir map daearyddol. Mae’r map nodau’n cynnwys cylchoedd melyn, gwyrddlas, pinc a gwyrdd llachar gyda chysylltiadau rhwng y cylchoedd. Mae gan bob nod label unigryw. Er enghraifft, caiff nod â’r label ‘teimlo’n anesmwyth mewn twll grisiau’ ei gysylltu â nod arall â’r label ‘defnydd o gyffuriau wedi’i normaleiddio’. Hefyd, ceir blwch hidlo â botymau i ddangos neu guddio gwahanol grwpiau.

Prototeipio technolegau newydd: Creu mathau newydd o fapiau sy’n archwilio cydgysylltiadau llesiant cymunedol

A photo of the person.
Sam Howey Nunn
19/06/2024

Yma yn Free Ice Cream, rydym yn gweithio tuag at fyd lle gall pobl archwilio’u cydberthnasau gyda’i gilydd a chyda’u lleoedd mewn ffyrdd mwy gobeithiol a llai polareiddiedig. Byd lle gall pobl ddychmygu mwy nag un dyfodol a theimlo fel pe baent wedi’u grymuso i esgor ar newid yn eu lleoedd.

Er mwyn gwneud hyn, awn ati i lunio offer cyfranogi chwaraeol ar gyfer ein mannau digidol a’n mannau cyhoeddus – offer sy’n helpu pobl i ofyn gwell cwestiynau ac archwilio posibiliadau newydd yn ymwneud â’r byd o’u cwmpas. Pam dewis dull cyfranogi chwaraeol? Wel, fel dylunwyr gemau, gwyddom y dylai’r gwahoddiad gorau i gymryd rhan mewn sgwrs gymhleth – fel meddwl am lesiant neu am yr argyfwng hinsawdd – fod yn chwaraeol. Dylai’r arlwy fod yn llawn hwyl; heb hynny, wnaiff neb gymryd rhan.

Rhywbeth arall sy’n rhan o’n holl brosiectau yw archwilio’r cydgysylltiad rhwng pethau, ac mae cryn dipyn o’n gwaith mapio’n defnyddio ‘map nodau’ o ryw fath. Mae mapiau’n ffordd wych o edrych ar y system sy’n llechu (o’r golwg, yn aml) y tu ôl i realiti pobl.

Mae’n waith cyffrous, ond nid tasg hawdd yw creu technolegau newydd at ddibenion cymdeithasol – mae un yn ddrud, ac ni chaiff y llall ei werthfawrogi’n ddigonol – felly mae cael gwahoddiad i weithio fel Cydymchwilydd ar y Llwyfan Map Cyhoeddus yn rhoi rhyddid inni dreiddio i’r methodolegau mapio cyfranogol gorau, a’u profi, gyda chriw gwych a chymuned frwd ar Ynys Môn.

Ac wrth inni ymgyfarwyddo dros amser â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, sy’n cynnig y fframwaith cyffredinol ar gyfer uchelgeisiau’r Llwyfan Map Cyhoeddus, mae’n amlwg bod ein hegwyddorion a’n dull dylunio yn cyd-fynd â’r ‘Pum Ffordd o Weithio’ a gaiff eu gwerthfawrogi eisoes yma yng Nghymru (sef Integreiddio, Cynnwys, Cydweithio, Atal a Meddwl Hirdymor).

Yn y bôn, mae hyn yn golygu nad yw’n ofynnol inni esbonio pam y rhoddwn flaenoriaeth i’r pethau a wnawn yn ein technolegau – mae tîm y Llwyfan Map Cyhoeddus a phobl Ynys Môn yn deall i’r dim – ac mae hyn wastad yn help wrth ymuno â thîm newydd a chanddo amryfal bartneriaid, lle mae’n rhaid i bawb ddod i arfer â’i gilydd ac â syniadau ei gilydd yn ddigon cyflym i ddechrau eu cyfuno’n effeithiol.

Fe wnaethom ymuno â’r Llwyfan Map Cyhoeddus gyda chnewyllyn syniad a phrototeip sylfaenol, sef ‘Digwyddiadau’ (teitl dros dro, ond efallai y bydd yn parhau) – h.y. offeryn mapio cyfranogol ar gyfer archwilio’r amgylchedd adeiledig, lle rhoddir blaenoriaeth i gyd-ddealltwriaeth wirioneddol o lesiant cymunedol, yn hytrach nag un y bwriedir iddo lesteirio ymatebion cyfnod penodol gan ddinasyddion pan ddaw’r datblygwyr i’r golwg. Offeryn a fydd yn galluogi cymunedau i rannu eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth o’r gydberthynas rhwng pethau – neu’r cydgysylltiad rhwng pethau. Yn rhwystredig ddigon, mae hyn wedi cael ei ohirio ers amser maith gan nad oes rhyw lawer o reidrwydd yn y farchnad i greu gwybodaeth gymunedol o’r fath (heb sôn am yr offer ar gyfer creu newid).

Ond trwy lwc, dyma’n union yw hanfod y Llwyfan Map Cyhoeddus – chwilio am ffyrdd newydd a diddorol a fydd yn galluogi dinasyddion i ddweud beth sy’n bwysig iddynt, mewn ffordd a all lywio gwaith cynllunio a pholisïau o’r cychwyn cyntaf.

Yr uchelgais yw pontio’r safbwynt hwnnw – h.y. gwneud rhywbeth diddorol a llawn hwyl y gall cymunedau ei ddefnyddio, ond rhywbeth a fydd hefyd yn cynhyrchu data y gall yr awdurdod lleol ei ddefnyddio i lunio polisïau a chynlluniau gwell a gaiff eu llywio gan y gymuned.

Felly, ein tasg ni yw adeiladu ar syniadau cynnar a’u datblygu i greu offeryn mapio ar gyfer plant a phobl ifanc, gyda Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn llywio’r holl broses. Awn ati i wneud hyn trwy gyfrwng chwarae – gallu (neu anallu) person ifanc i chwarae neu gymdeithasu’n ddilyffethair mewn mannau cyhoeddus yn eu lleoedd. Mae chwarae yn rhyw fath o brism – mae’n datgelu’r holl agweddau ar y lle a’r modd y maent yn cefnogi, neu’n tanseilio, chwarae. Gobeithio y bydd y dull hwn yn ein galluogi i archwilio llesiant cymdeithasol / amgylcheddol / economaidd / diwylliannol gyda’i gilydd – fel y gall pawb weld bod yr elfennau hyn wedi’u hintegreiddio.

Trwy gymorth gweithdy, bydd yr offeryn yn tywys criw o bobl ifanc (a’r rhai sy’n eu cynorthwyo) trwy sgwrs, gan eu galluogi i sôn am adegau pan fuont yn chwarae gyda’i gilydd – neu, os byddant yn hŷn, adegau pan fuont yn treulio amser gyda’i gilydd. Gwneir hyn trwy fynd ati ar y cyd i archwilio beth yn union sy’n eu galluogi neu’n eu hatal rhag gwneud y pethau hyn. Byddwn yn ystyried yr haenau polisi a dylunio trefol fel galluogwyr/atalwyr, ond mewn ffyrdd a fydd yn hawdd i bobl ifanc eu deall.

Cryfder y dull hwn yw’r ffaith y byddwn yn delio â data hynod ansoddol a goddrychol gyda’n gilydd ar ffurf sgwrs a dealltwriaeth ar y cyd. Yna, bydd modd dadansoddi’r data a erys yn ei gyfanrwydd er mwyn gweld beth yw’r achosion sylfaenol a’r ysgogiadau newid – a pha un a yw’r achosion a’r ysgogiadau yr un fath, o dro i dro, ar draws elfennau eithaf gwahanol.

Rydym yn llawn cyffro o gael cyflwyno ‘syniadaeth ecolegol’ o’r fath (h.y. bod popeth yn gydgysylltiedig) i ffurf newydd o ymgysylltu â chymunedau. A ninnau’n wynebu cyfnod anodd, mae angen mynd ati ar frys i helpu cymunedau i feddwl ar ffurf systemau. Gan fod y gwaith hwn yn newydd, byddwn yn cyflwyno rhagor o fanylion wrth i bethau ddatblygu. Ond am y tro, gallwch fwrw golwg ar ddau o’n llwyfannau mapio eraill:

www.relationalmapping.co.uk

www.understory.community