

Ein gobaith o’r dechrau oedd y byddai’r Llwyfan Map Cyhoeddus yn ddefnyddiol ac yn berthnasol mewn gwahanol gyd-destunau ac ar wahanol raddfeydd. Mae gennym grwpiau cynghori eisoes ar lefel leol (Ynys Môn), ar lefel Cymru ac ar lefel y DU. Gan gydnabod bod mwy a mwy o waith yn cael ei wneud ar lefel ranbarthol a bod gan nifer o sefydliadau ôl troed rhanbarthol, rydym wedi sefydlu Grŵp Cynghori Newydd ar gyfer Gogledd Cymru.
Mae gan y Grŵp hwn rôl hanfodol o ran llywio'r prosiect yn weithredol ac yn strategol (pa fannau a pha bethau y dylid canolbwyntio arnynt, creu cysylltiadau), a hefyd o ran cynnig cyngor ynglŷn â gweithredu polisïau a gallu'r prosiect i dyfu yn unol â'r anghenion.
Rydym wrth ein bodd bod amrywiaeth o sefydliadau, sef sefydliadau angor fel Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, Cyngor Gwynedd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Amgueddfa Cymru, Uchelgais Gogledd Cymru, Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gogledd Cymru, Prifysgol Wrecsam, sefydliadau a phartneriaethau fel Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd a Môn, GwyrddNi, Arfor, ac arbenigwyr iaith a chreadigrwydd, wedi ymuno â'r grŵp. Bydd hyn yn helpu i gynnig gwedd wahanol ar y gwaith a sicrhau y bydd modd i'r Llwyfan Map Cyhoeddus fod mor ddefnyddiol â phosibl.
Gobeithio hefyd y bydd cyfrannu at y Grŵp Cynghori yn brofiad gwerthfawr i'r aelodau trwy eu galluogi i gysylltu gyda'i gilydd a dysgu gan y naill a'r llall a hefyd trwy ysgogi syniadau yn eu meysydd gwaith eu hunain.
Bydd y Grŵp Cynghori Rhanbarthol yn cyfarfod yn chwarterol ac ar-lein hyd nes y daw'r prosiect i ben (ym mis Medi 2025).