Mae Lle Llais wedi cyrraedd Ynys Môn!
Mae Lle Llais, sef gweithgareddau awyr agored y Llwyfan Map Cyhoeddus, ynghyd â strwythurau pren arloesol yr Ystafell Grwydrol Wledig wedi cychwyn ar eu taith o amgylch rhai o dirweddau mwyaf trawiadol Ynys Môn! Mae tîm y Llwyfan Map Cyhoeddus eisoes wedi croesawu plant, pobl ifanc a’u teuluoedd i Barc Gwledig Morglawdd Caergybi a Mynydd Parys ger Amlwch i gymryd rhan mewn teithiau mapio amlsynhwyraidd rhyngweithiol o amgylch y safleoedd. Wrth i’r daith gyflymu, bydd yr Ystafell Grwydrol Wledig, ynghyd â beirdd rhyngddisgyblaethol y prosiect yn gwneud eu ffordd i Oriel Môn yn Llangefni, ac yn cloi gyda digwyddiad pum niwrnod ar dir tywodlyd Gwarchodfa Natur Genedlaethol a Choedwig Niwbwrch ym mis Medi.
Beth yw Lle Llais?
Mae Lle Llais yn gyfres o ddigwyddiadau sydd wedi’u trefnu i ddarparu gweithgareddau hwyliog, rhad ac am ddim i deuluoedd, gyda’r nod o gysylltu’r cyfranogwyr â’r tirweddau trwy eu synhwyrau amrywiol. Mae’r teithiau hyn yn cynnig cyfleoedd i blant a phobl ifanc ddod yn fapwyr, ac fe’u gwahoddir i gwblhau gweithgareddau amrywiol yn seiliedig ar olwg, cyffyrddiad, arogl a sain, sydd oll wedi’u dylunio gan y tîm ymgysylltu o Brifysgol Caergrawnt – Caitlin Shepherd, Irit Katz a Flora Samuel. Mae nifer o weithgareddau gweithdy hefyd yn cael eu cynnig o fewn gofodau’r Ystafell Grwydrol Wledig, sydd yn cronni'n raddol gyda deunyddiau creadigol yn cael eu plethu i'r strwythurau.
Bydd ymwelwyr â’r safleoedd hefyd yn dod ar draws tri bardd talentog y Llwyfan Map Cyhoeddus, sy’n gysylltiedig â Phrifysgol Wrecsam, a fydd yn darparu elfennau perfformio a chreadigol yn ystod y profiadau awyr agored. Mae pob digwyddiad Lle Llais yn agor gyda seremoni dan arweiniad Rhys Trimble (gyda seremoni dawel amgen wedi’i hwyluso gan Lisa Hudson), fel cyfeiriad at draddodiad barddol yr Eisteddfod – gŵyl sy’n rhan annatod o ddiwylliant Cymru. Mae sesiynau adrodd straeon gan Gillian Brownson yn cysylltu â threftadaeth leol a llên gwerin yr ynys – y Copar ladis (sef merched Copr Mynydd Parys), a Choblynod mwyngloddio er enghraifft – tra bod perfformwyr yn cerdded o gwmpas y lleoliad gan ryngweithio â’r ymwelwyr wrth iddynt wneud eu ffordd o amgylch y llwybrau. Mae cerddorion lleol hefyd wedi cyfrannu, wrth i synau nodweddiadol offerynnau traddodiadol y genedl, y pibgorn a’r delyn deires gael eu clywed yn y dirwedd, tra bod seiloffonau llechi a seiniau creigiau Mynydd Parys yn rhoi digonedd o gyfleoedd i archwilio synau sy’n ymwneud â deunyddiau lleol.
Lle i fyfyrio ar ein perthynas â byd natur yw Lle Llais, i feddwl beth mae’r lleoedd yn ei olygu i ni, a sut rydym yn defnyddio ein synhwyrau i gysylltu â’r amgylchedd o’n cwmpas. Gan ddefnyddio dulliau creadigol, mae’r gweithgareddau’n cynnig amser i ffwrdd o brysurdeb bywyd bob dydd, ac i feddwl yn wirioneddol am ein hymdeimlad o berthyn i le. Mae strwythurau arloesol yr Ystafell Grwydrol Wledig yn ein gwahodd i feddwl am leoedd (a all fod yn gyfarwydd i ni neu beidio) mewn ffordd wahanol. Mae arsylwadau o’r digwyddiadau hyd yma wedi datgelu synnwyr clir y cyfranogwyr o ryngweithio â’r gweithgareddau a’u mwynhad amlwg o’r teithiau drwy’r dirwedd. Yn hanfodol i’r awyrgylch croesawgar a hwyliog y mae Lle Llais yn ei gynnig yw’r arferion hygyrchedd a chynhwysiant sydd wrth galon y digwyddiadau, gyda gofod tawel dynodedig ar gael, yn ogystal ag offer synhwyraidd a bygis sy’n addas ar gyfer pob math o lwybrau.
Ymchwil ac ymgysylltu â'r gymuned
Mae’r gweithgareddau hwyliog a gynigir yn Lle Llais yn seiliedig ar ddulliau ymchwil cyfranogol gelfyddydol, ac mae ymgysylltiad y cyfranogwyr â’r digwyddiadau wedi’i ddogfennu’n ofalus gan y tîm. Wrth iddynt gwblhau eu gweithgareddau ar hyd y llwybrau, gwahoddir cyfranogwyr i ymuno â mapwyr cymunedol y Llwyfan Map Cyhoeddus i gwblhau arolwg am eu profiadau. Mae’r adborth yn darparu data gwerthfawr i’r ymchwilwyr sy’n datblygu pecyn cymorth ymgysylltu a fydd ar gael i deuluoedd, sefydliadau a chymunedau ei ddefnyddio yn eu gweithgareddau eu hunain. Yn ogystal, mae'n bosibl y bydd y data a gynhyrchir fel rhan o'r gweithgareddau yn cael ei integreiddio i'r llwyfan mapio digidol a fydd yn cael ei gyflwyno maes o law, sy'n cael ei gynllunio i wneud penderfyniadau cynllunio gwell ar gyfer pobl Ynys Môn yn y dyfodol. Mae Lle Llais yn cynnig cyfleoedd i ddysgu mwy am y Llwyfan Map Cyhoeddus, gan annog plant ac oedolion fel ei gilydd i fod yn fapwyr cymunedol, a thrwy hynny gymryd rhan mewn ymgyrch i roi llais i drigolion cymunedau’r ynys ar eu dyfodol. Gwahoddir y cyfranogwyr i dderbyn diweddariadau am ddatblygiadau’r prosiect wrth i’r llwyfan mapio digidol gael ei lansio maes o law.
Mae pob digwyddiad yn cynnwys cydweithio agos â rhanddeiliaid a sefydliadau lleol, megis Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Ynys Môn, Geo Môn, Ymddiriedolaeth Treftadaeth Ddiwydiannol Amlwch, Oriel Môn a Chyfoeth Naturiol Cymru. Mae diolch yn fawr iawn i bawb yn y sefydliadau hyn, yn ogystal â thîm y LlMC, am eu cefnogaeth amhrisiadwy i wneud digwyddiadau Lle Llais yn llwyddiant!
Ymunwch â ni!
Mae’r paratoadau ar waith i groesawu plant, pobl ifanc a'u teuluoedd i'r ddau ddigwyddiad nesaf, lle bydd llawer o gyfleoedd mapio llawn hwyl ar gael! Lledaenwch y gair o amgylch ffrindiau a theuluoedd ac ymunwch â ni os y gallwch yn Oriel Môn rhwng 29 Awst a 1 Medi, neu yn Niwbwrch rhwng 18 a 22 Medi. Argymhellir i gadw lle trwy wefan Eventbrite (gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth yma), er bod croeso hefyd i droi fyny ar y dydd!