Lle Llais – ymgysylltu â phlant a phobl ifanc i fapio eu hynys
Yr haf hwn, bydd tîm y Llwyfan Map Cyhoeddus yn gweithio ar hyd a lled Ynys Môn i ganfod y modd y mae ymgysylltu’r gymuned â chynllunio yn greadigol ac yn hwyl. Fel rhan o hyn, bydd ein Caban Crwydro’r Cefn Gwlad [a ddyluniwyd gan y cyflwynydd teledu a’r pensaer Piers Taylor] yn ganolbwynt ein pedwar digwyddiad Lle Llais. Bydd yn teithio o amgylch Ynys Môn, yn ymgysylltu plant a phobl ifanc â’r mannau a’r lleoedd o’u cwmpas, ac yn rhoi llais iddyn nhw yn y gwaith o lywio dyfodol eu cymuned trwy adeiladu mapiau a wnaed gan y gymuned.
Wedi’i addasu a’i roi ar waith mewn lleoliad gwledig, mae Lle Llais yn deillio o egwyddorion Ystafelloedd Trefol - sef lle i bobl gael dod at ei gilydd i ddeall, trafod, a chael ymwneud â’r gorffennol, y presennol a’r dyfodol, ymhle maen nhw’n byw, yn gweithio, ac yn hamddena.
Dechreuodd Lle Llais ar ei daith ym Mharc Gwledig y Morglawdd yng Nghaergybi ym mis Gorffennaf, gyda bron i 500 o bobl yn cymryd rhan. Bydd yn ymweld â thri lleoliad arall ar yr ynys o hyn ymlaen tan ddiwedd mis Medi.
Edrychwch ar ein tudalen digwyddiadau os oes gennych ddiddordeb mewn mynychu.
Bydd beirdd, perfformwyr, artistiaid, gwyddonwyr ac ymchwilwyr yn cynnal gweithgareddau mapio dyddiol i deuluoedd, plant, a phobl ifanc. Ceir taith amlsynnwyr greadigol hefyd trwy’r dirwedd – a fydd yn eich annog i aros a gwrando, ynghyd â chyffwrdd, edrych, ac arogli – i helpu i feithrin cysylltiadau rhwng pobl a byd natur.
Canolbwynt Lle Llais ydy pedair ffrâm wau bensaernïol. Ysbrydolwyd eu dyluniad gan ddiwylliant, treftadaeth, a thirwedd yr ynys. Y syniad ydy y byddan nhw’n cael eu haddurno gan y gymuned – eu gwau â deunyddiau lleol, o wymon i wlân defaid, ynghyd â ffrwyth gwaith creadigol y cymunedau, y mae’r cwbl yn adlewyrchu storïau, atgofion, a threftadaeth Ynys Môn.
Mae Lle Llais yn rhan o brosiect ymchwil mawr, y Llwyfan Map Cyhoeddus, a arweinir gan brifysgolion Caergrawnt, Caerdydd, Wrecsam a Bangor, ac mae’n rhan o’r ‘Future Observatory’ – sef rhaglen ymchwil genedlaethol The Design Museum ar gyfer pontio i adferiad gwyrdd, ac fe’i hariannir gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau. Mewn partneriaeth ag amrywiaeth o sefydliadau cyhoeddus, preifat, a rhai o’r trydydd sector, ynghyd â’r gymuned leol, ei nod ydy dangos bod system gynllunio ddibynadwy, ar sail mapiau a wnaed gan gymunedau, ac ar eu cyfer, yn wirioneddol bosib.