Partneriaeth Bwyd Ynys Môn
Ongoing

Adeiladu Partneriaethau Effeithiol drwy Gryfderau a Rennir

Partnerodd Map Cyhoeddus â Phartneriaeth Bwyd Ynys Môn i gyflwyno gweithdy rhyngweithiol a oedd yn mapio cryfderau, sgiliau a chyfleoedd a rennir ar draws sefydliadau aelod.

Yn aros am alt

Mae Map Cyhoeddus yn aelod o Bartneriaeth Bwyd Ynys Môn ac wedi cynnig hwyluso diwrnod datblygu gweithdy, gan weithio ochr yn ochr â’r Bartneriaeth i nodi ac amlygu cryfderau a chyfleoedd a rennir drwy fapio.

Dyluniwyd y sesiwn ryngweithiol i gefnogi aelodau’r bartneriaeth i nodi eu cyfraniadau unigryw, gwella dealltwriaeth o sut i gydweithio’n fwy effeithiol, a chreu sylfaen gref ar gyfer cydweithio dyfnach rhwng sefydliadau partner. Drwy weithgareddau dan arweiniad a thrafodaeth grŵp, bu i gyfranogwyr:

  • Fapio cryfderau unigol a sefydliadol
  • Ystyried sgiliau ac adnoddau ar draws y bartneriaeth
  • Nodi bylchau, gor gyffwrdd, a chyfleoedd i gydweithio
  • Datblygu strategaethau i gynorthwyo perthnasoedd gwaith mwy cydlynol ac effeithiol

Cynhyrchwyd a chyflwynwyd Map Partneriaeth Bwyd Ynys Môn, ochr yn ochr ag adroddiad a oedd yn croesgyfeirio rhwng deilliannau’r gweithdy a Deddf Cenedlaethau’r Dyfodol, y 5 Ffordd o Weithio, a Blaenoriaethau Bwyd y Dyfodol. Roed hyn yn rhoi fframwaith ymarferol a strategol i bartneriaid i arwain cydweithio a gwneud penderfyniadau yn y dyfodol.

Gweithio tuag at ddyfodol sy'n blaenoriaethu lles pobl a'r blaned.
Caiff y Llwyfan Map Cyhoeddus ei arwain gan Brifysgolion Caergrawnt, Caerdydd a Wrecsam ac mae’n rhan o raglen ymchwil genedlaethol The Design Museum ar gyfer pontio gwyrdd, sef ‘Future Observatory’. Caiff ei ariannu gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau. Nid yw’r wefan hon yn defnyddio cwcis ac nid yw’n casglu gwybodaeth bersonol adnabyddadwy.