Beth yw Map?
Rydw i’n edrych ar gerdyn maint A4. Arno, ceir rhes o gyrcs, caeadau poteli, rhywfaint o wlân a chasgliad o fes. Mae’r cwbl yn debyg i olion pentref a adawyd ganrifoedd yn ôl.
“Dyma’r gegin, yr ystafell ymolchi a’r ardd. Dyma’r pwll gyda phenbyliaid a dyma’r tyllau y mae fy chwiorydd yn mynnu eu tyrchu.”
Gwych, a beth yw hwn? Rydw i’n pwyntio at ddau wrthrych crwn ar boptu pensil. Mae’n dechrau chwerthin dan ei ddannedd.
Atgoffâd da iawn y bydd plant wastad yn dilyn eu cyfeiriad eu hunain. O ystyried bod y sesiwn hon wedi’i chynnal gyda fy mab 10 oed a’i gyfaill, fe ddylwn fod wedi disgwyl gweld casgliad o ychwanegiadau.
Rhyw fath o brawf oedd y sesiwn hon – cyfle imi roi cynnig ar syniadau ar gyfer ein gweithdai ‘Beth yw Map?’ y byddwn yn eu cynnal ledled Ynys Môn dros yr haf. Yn ystod Mehefin, Awst a Medi, byddwn yn ymgysylltu â phlant y tu allan i ysgolion – clybiau ieuenctid, y Sgowtiaid a’r Geidiau, Gofalwyr Ifanc, Mencap Môn, yn ogystal â Sioe Môn a’r Diwrnod Chwarae. Byddwn yn gweithio gyda phlant 8-18 oed a byddwn yn canolbwyntio’n arbennig ar blant anabl, plant ag anghenion ychwanegol a phlant y tu allan i lwybrau prif ffrwd. Disgwyliwn y bydd y sesiynau’n ddi-drefn ac yn llawn pethau annisgwyl, a’n gobaith yw y bydd yr ymchwil yn effeithiol o ran deall y canlynol:
- Y pethau sy’n bwysig i fapiau.
- Y modd y dylid cynrychioli’r pethau hynny.
- Y pethau y dylai stiwardiaid y mapiau fod yn ymwybodol ohonynt yn y dyfodol mewn perthynas â phobl ifanc.
Mae chwarae, ymatebion creadigol, adrodd straeon a gemau yn gwbl greiddiol i’r methodolegau a ddefnyddiwn yn Play:Disrupt i hwyluso sgyrsiau rhwng / gyda sefydliadau a chyfranogwyr. Credwn fod modd i’r cyfranogwyr ddatrys problemau mewn heriau, boed hynny trwy gyfrwng ymarfer creu lleoedd, gwasanaeth iechyd neu wrth gynllunio maes chwarae.
Nod cyffredinol y gweithdai yw casglu syniadau ynglŷn ag astudio/dehongli symbolau ac eiconograffi’r map. Y pethau y mae’n bwysig eu mapio – sleidiau a siglenni da? Y fan lle tyrchais dwll anferth? Y lle â’r cacennau tom mwyaf?
Canolbwynt y gweithdy hwn yw Mandala troellog mawr o Ynys Môn (gweler y prototeip yn y llun). Llenwir y gwahanol adrannau â darnau rhydd – gwrthrychau y daethpwyd o hyd iddynt ac a gasglwyd ynghyd – ac rydym yn gwahodd y plant i fapio’r mannau lle maent yn chwarae, lle maent yn treulio amser. Disgwyliwn iddynt fapio asedau sefydlog gwirioneddol, elfennau dros dro a phethau anghyffwrdd fel chwerthin, perygl a’r welington sy’n sownd yn y mwd.
Byddwn yn ystyried y modd y mae pobl ifanc ar Ynys Môn yn mynd ati i ddefnyddio mapiau ar hyn o bryd a sut y gallai mapiau eu cynorthwyo mewn heriau beunyddiol. Mae gennym gyfle i lunio map HOLLOL WAHANOL, un a fydd yn defnyddio adnoddau’r unfed ganrif ar hugain i ategu bywyd yn yr unfed ganrif ar hugain – ei harddwch, ei heriau a’i gymhlethdodau. Gallwn chwyddo i mewn ac allan, ymweld ag unrhyw le ar y we, defnyddio sain a fideos, a hyd yn oed dirgryniadau gemau fideo. Gallwn deithio o’n cadeiriau a defnyddio droniau i weld pethau o bersbectif gwahanol. Gallwn guddio pethau yng ngŵydd pawb neu ddatgelu hanesion ein cyndadau. Mae gennym ddiddordeb arbennig mewn gwneud hyn o safbwynt pobl ifanc. Ai pwysig yw gwybod Ble ydw i? Neu Beth yw hanes fy nghyfeillion? A ydym angen cyfarwyddiadau manwl, ynteu a yw Google wedi ymdrin â hyn oll? Ai da o beth yw mapio mannau chwarae gwirioneddol dda er mwyn gwneud yn siŵr na chânt eu datblygu? A ddylem drysori mannau fel Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig? Beth am ein ffyrdd o fynd hwnt ac yma – beth yn union y dylid ei gynnwys ar lwyfan cyhoeddus? A ddylid cadw rhai pethau’n dawel – sylfaen wybodaeth ‘plentyn i blentyn’, fel trysor cudd môr-ladron; ynteu a allai oedolion, wrth ail-fyw profiadau plant o le, wneud penderfyniadau gwell ar gyfer lleoedd yn y dyfodol?
Byddwn yn ymweld â grwpiau ym mis Mehefin a mis Awst. Gallwch ddod o hyd inni yn y Diwrnod Chwarae ac yn Sioe Môn. Cymerwch gipolwg ar events i gael rhagor o wybodaeth. Ac os gwyddoch am grŵp a allai fod â diddordeb mewn cymryd rhan, cysylltwch â ni: post@publicmap.org
Edrychwn ymlaen yn fawr at roi pethau ar waith er mwyn gweld beth yn union y gellir ei ddarganfod. Ar hyd y ffordd, disgwyliwn ddod ar draws yr annisgwyl a dod wyneb yn wyneb â llawer mwy o wiriondeb digywilydd!