Y Modd yr Esblygodd Mapio: O Fapiau Papur i Fapiau Digidol mewn Prosiectau Cymunedol
Mae mapio wastad wedi bod yn hanfodol i gymunedau, gan helpu i ddelweddu adnoddau lleol, daearyddiaeth a chynlluniau datblygu ar gyfer y dyfodol. Rydw i’n cofio’r profiad cyntaf a gefais gyda mapiau pan oeddwn yn blentyn – yn aml, byddai fy nheulu’n dibynnu ar fap papur plygedig, a oedd wedi gweld ei ddyddiau gwell, pan fyddem yn mynd am dro yn y car. Profiad rhyfeddol oedd olrhain ein llwybr gyda ’mys, gan aros yn awyddus am y tro nesaf yn y ffordd. Roedd y mapiau hyn a wnaed â llaw yn cynnig ffordd wirioneddol o ddogfennu defnydd tir, tirnodau a gwybodaeth gyffredin. Ond wrth i dechnoleg ddatblygu, mae offer mapio digidol, fel OpenStreetMap, wedi trawsnewid y modd rydym yn creu mapiau ac yn rhyngweithio â nhw. Mae troi o ddefnyddio mapiau papur at ddefnyddio mapiau digidol yn teimlo’n fwy na phroses uwchraddio dechnolegol; mae’n cynrychioli ffordd newydd y gall cymunedau ei defnyddio i gydweithio, rhannu gwybodaeth a chynllunio’u dyfodol. Yn y blog hwn, byddaf yn trafod y modd y mae mapio wedi esblygu, gan ganolbwyntio’n arbennig ar OpenStreetMap, a’r hyn y mae’n ei olygu i brosiectau cymunedol modern.
Cyn i offer digidol ennill bri, roedd cymunedau’n dibynnu ar fapiau papur i gofnodi a rhannu gwybodaeth leol. Rydw i’n dal i weld mapiau’n cael eu harddangos ar fyrddau cymunedol yn fy nhref, a hwythau’n frith o nodiadau llawysgrifen yn tynnu sylw at nodweddion hollbwysig fel ffyrdd, afonydd a thirnodau lleol. I nifer o bobl, mae’r mapiau hyn yn gyfarwydd ac yn hygyrch; gall pawb farcio newidiadau neu ychwanegu gwybodaeth newydd. Rydw i wastad wedi credu bod y mapiau hyn yn arfau gwerthfawr wrth gynllunio trefi a diogelu diwylliant, gan ei gwneud yn bosibl inni fapio hanes lleol mewn ffordd weledol. Ond er gwaethaf eu manteision, mae cyfyngiadau amlwg yn perthyn i fapiau papur. Mae modd iddynt ddyddio wrth i gymunedau dyfu neu newid, ac yn aml mae cywirdeb mapiau o’r fath yn ddibynnol ar wybodaeth leol – rhywbeth a all fod yn anghyson. Rydw i’n cofio teimlo rhwystredigaeth pan arferwn edrych ar fap wedi dyddio a sylweddoli bod ffordd newydd wedi agor neu bod rhyw dirnod arbennig wedi cael ei symud ymaith. Ac wrth gwrs, does dim modd i fapiau papur ddangos haenau data cymhleth, ac o’r herwydd maent yn llai defnyddiol ar gyfer gwaith dadansoddi manwl neu brosiectau ar raddfa fawr.
Mae cyflwyno mapiau digidol trwy gyfrwng platfformau fel OpenStreetMap wedi chwyldroi’r modd yr aiff cymunedau i’r afael â gwaith mapio. Pan ddysgais am OpenStreetMap ar y cychwyn, roedd hi’n anhygoel meddwl bod modd i unigolion a chymunedau gyfrannu’n uniongyrchol at fapio’u hardaloedd. Mae’r elfen gynhwysol hon yn arbennig o werthfawr ar gyfer cofnodi manylion a gaiff eu hepgor yn aml o fapiau masnachol, fel ffyrdd llai, tirnodau cymunedol ac amwynderau lleol. Trwy ganiatáu i bawb olygu a diweddaru mapiau, mae OpenStreetMap yn hyrwyddo cydweithredu ac yn sicrhau bod y data’n parhau i fod yn gyfredol ac yn berthnasol. Yn ddi-os, mae’r ffaith bod modd i drigolion fynd ati i siapio sut y caiff eu hamgylchedd ei ddogfennu a’i ddeall, gan greu map byw sy’n esblygu gyda’r gymuned, yn rhywbeth ysbrydoledig iawn.
Er bod manteision lu yn perthyn i fapiau cymunedol, maent hefyd yn esgor ar heriau a chyfleoedd i gymunedau. Un her hollbwysig yw’r gagendor digidol – mae mynediad at y dechnoleg a’r sgiliau angenrheidiol yn gallu bod yn anghyson, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig neu ardaloedd heb wasanaethau digonol. Mewn rhai ardaloedd, rydw i wedi gweld â’m llygaid fy hun nad oes digon o adnoddau o fewn y gymuned i ymhél â’r offer newydd hyn. Mae ceisio deall yr elfennau technegol sy’n rhan annatod o blatfformau fel OpenStreetMap yn gallu codi ofn ar nifer o bobl. Hefyd, cyfyd pryderon ynglŷn â phreifatrwydd data a pherchnogaeth data pan gynhwysir gwybodaeth bersonol neu sensitif mewn mapiau digidol. Ond mae’r cyfleoedd yn enfawr. Mae technolegau datblygol, fel dronau a deallusrwydd artiffisial, yn cynnig ffyrdd newydd o gofnodi a dadansoddi data gofodol gyda chywirdeb na welwyd ei debyg o’r blaen. Caf fy rhyfeddu gan y modd y gall y technolegau hyn gyfoethogi gwaith mapio cymunedol trwy ddarparu data amgylcheddol manwl neu trwy ganfod patrymau na sylwyd arnynt o’r blaen.
Mae’r modd y mae mapiau wedi esblygu o fod yn fapiau papur i fod yn blatfformau digidol fel OpenStreetMap yn arwydd o ddatblygiad arwyddocaol o ran y modd y mae cymunedau’n dogfennu eu hamgylcheddau ac yn ymhél â’r amgylcheddau hynny. Er yr arferai mapiau papur gynnig ffordd werthfawr o gofnodi gwybodaeth leol, mae OpenStreetMap wedi gweddnewid y broses fapio a’i throi’n broses gydweithredol a rhyngweithiol. Rydw i wedi gweld â’m llygaid fy hun yn y prosiect hwn sut y mae’r nodweddion arloesol hyn yn grymuso pobl i greu mapiau cywir a chyfredol sy’n adlewyrchu eu mewnwelediadau a’u hanghenion unigryw nhw. Er gwaethaf heriau fel y gagendor digidol a phryderon ynglŷn â phreifatrwydd data, mae modd i’r cyfleoedd sy’n deillio o dechnolegau newydd wella mwy fyth ar ein hymdrechion mapio. Trwy wneud yn fawr o ddulliau traddodiadol a modern, credaf y gall cymunedau sicrhau bod eu mapiau’n arfau pwerus ar gyfer cynllunio, datblygu ac ymgysylltu, gan lwyddo yn y pen draw i lunio dyfodol gwell i bawb. Wrth inni symud tua’r dyfodol, rydw i’n llawn cyffro ynglŷn â pharhau i integreiddio gwybodaeth leol gyda thechnolegau mapio uwch, a’r modd y gall hyn annog twf cymunedol cynaliadwy a deallus.