Mapio drwy Lyfrynnau
A ydych chi erioed wedi clywed am y llyfrynnau? Os nad ydych, dydych chi ddim ar eich pen eich hun. Mae’r llyfrynnau, ar eu ffurf symlaf, yn weithiau bychain, hunan-gyhoeddedig, yn llawn testun a delweddau gwreiddiol neu wedi’u haddasu, yn aml wedi eu hatgynhyrchu ar lungopïwr. Gall y llyfrynnau bach fod o unrhyw siâp, maint neu fformat, ac mae modd trafod unrhyw bwnc dan haul - o straeon personol a safbwyntiau gwleidyddol i gelf, cerddoriaeth, neu mor syml â’ch straeon o ddydd i ddydd. Yr hyn sy’n gwneud y llyfrynnau mor atyniadol yw eu bod ar gael i bawb, yn caniatáu i unigolion neu grwpiau bach ddweud eu dweud, yn rhydd o gyfyngiadau y cyfryngau traddodiadol.
Mae’r llyfrynnau hefyd yn arf defnyddiol i ymgysylltu’n greadigol, yn arbennig gan bobl ifanc, sy’n teimlo nad oes ganddynt gysylltiad â gwleidyddiaeth ffurfiol. Fel myfyriwr graddedig diweddar mewn Cysylltiadau Rhyngwladol a Datblygiad Rhyngwladol, rwyf wedi cael trafferth deall damcaniaeth wleidyddol draddodiadol, oherwydd ei natur haniaethol a’i fod mor anodd i gael ato. Cefais fy arwain felly at ffurf wahanol o fynegi barn wleidyddol, yn ystod fy mlwyddyn olaf fel myfyriwr israddedig: estheteg. Galluogodd fy astudiaethau, wedi i mi gael fy ysbrydoli’n benodol gan waith Roland Bleiker a’i lyfr Aesthetics in World Politics, i mi ail-ystyried sut y gall arferion creadigol (fel creu llyfrynnau) darfu ar y realiti gwleidyddol yr ydym yn byw ynddi, a chynnig ffyrdd newydd i ryngweithio â’r byd o’n cwmpas.
Mae’r llyfrynnau yn darparu ffurf ddelfrydol i fapio profiadau unigol, yn arbennig i bobl ifanc. Maent yn rhad, hunan-gyhoeddedig, ac yn bwysicach fyth: ar gael i bawb, waeth be fo’ch addysg neu’ch cefndir. Gall creu’r llyfrynnau ganiatáu i bobl fyfyrio ar eu hamgylchedd, a mynegi eu barn mewn modd personol a gonest. Dyma pam rwyf yn edrych ymlaen at y posibilrwydd o gyfuno gweithdai creu llyfrynnau ar ein Map Cyhoeddus. Yn y gweithdai, rwy’n bwriadu cael pobl ifanc yr ynys i gymryd rhan mewn modd creadigol a chyfranogol, gan ddefnyddio’r map fel platfform i leisio’u safbwyntiau ar y gymuned leol.
Dychmygwch gasgliad o lyfrynnau gan bobl ifanc ledled yr ynys. Byddai pob un yn rhoi ciplun unigryw o fywyd ar Ynys Môn - boed yn eu hoff leoedd, eu meddyliau am faterion lleol, neu eu gobeithion am y dyfodol. Byddai’r llyfrynnau hyn, ar y cyd, yn creu clytwaith o safbwyntiau pobl ifanc, gan roi mewnwelediad gwerthfawr i sut maent yn profi ac yn rhyngweithio â'u hamgylchedd.
Nid am gelf yn unig y mae hyn - mae am wleidyddiaeth hefyd. Mae gan lyfrynnau, hanes hir o roi llais cryfach i’r hyn sy’n cael ei anghofio mewn trafodaethau gwleidyddol prif ffrwd. Trwy annog pobl ifanc i greu’r llyfrynnau hyn, rydym yn eu grymuso i ystyried eu hunain fel actorion gwleidyddol. Caiff eu barn a’u gweledigaeth unigryw o Ynys Môn eu cofnodi mewn modd hygyrch a chreadigol, a fydd yn dangos nad rhywbeth yn digwydd ymhell i ffwrdd yn adeiladau’r llywodraeth yw gwleidyddiaeth - ein bod yn ei fyw ac yn ei brofi yn ddyddiol.
Fel rhywun sydd wedi cael trafferth o fod yn teimlo’n rhwystredig gyda gwleidyddiaeth draddodiadol, troais at greu llyfrynnau a chollage i darfu ar hyn. Mae’r lluniau hyn, er enghraifft, yn arddangos llyfryn cyflym a greais am fy amseroedd cinio yn Nant y Pandy, ardal goediog dawel yn Llangefni. Efallai ei fod yn ymddangos yn rhywbeth gwirion i gychwyn, ond mae’r llyfryn yn arddangos fy ngwerthfawrogiad o natur a phethau bychan dydd i ddydd wrth weithio mewn swyddfa. Mae’n giplun o fy nhaith unigol i - yn rhan bwysig o sut wyf yn profi a rhyngweithio â’m cymuned leol.