Dylunio’r Caban Crwydro’r Cefn Gwlad
Mae gwaith yn mynd yn ei flaen ar hyn o bryd i ddatblygu’r Caban Crwydro’r Cefn Gwlad arloesol – gofod creadigol amlbwrpas ar gyfer beirdd, artistiaid a cherddorion, a fydd yn teithio o amgylch Ynys Môn yn ystod misoedd yr haf, gan gynnig digwyddiadau hwyliog, rhad ac am ddim i deuluoedd fel rhan o weithgareddau ymgysylltu Lleoedd Llais y Llwyfan Map Cyhoeddus, tra’n darparu data ymchwil gwerthfawr ar yr un pryd.
Dechreuodd y gwaith o ddylunio a chynhyrchu’r Caban Crwydro ym mis Chwefror 2024, dan arweiniad y pensaer arloesol Piers Taylor (Invisible Studio) mewn cydweithrediad â Lean Structures, Onion Collective a PEARCE+, mewn gweithdy deuddydd yng Nghanolfan Ucheldre, Caergybi, a oedd yn arfer bod yn gapel o fewn lleiandy sydd ers hynny wedi dod yn rhan annatod o dirwedd ddiwylliannol Ynys Môn. Roedd y digwyddiad poblogaidd, a hwyluswyd gan Alec Shepley o Ysgol Gelf Prifysgol Wrecsam, yn gwahodd plant a phobl ifanc i feddwl yn greadigol am ddylunio gofod symudol i ddychmygu dyfodol gwell. Dros y ddau ddiwrnod, bu Piers Taylor a Georgie Grant o’r fenter gymdeithasol Onion Collective yn arwain gweithgareddau a oedd yn llawn creadigrwydd a dychymyg.
Anogwyd y cyfranogwyr yn dyner i fraslunio pethau a oedd yn gwneud iddynt deimlo’n hapus, cyn gollwng gafael ar eu gwaith celf a chyfrannu’n artistig at waith cyd-gyfranogwyr, trwy ychwanegu elfennau newydd at y lluniadau a myfyrio ar eu hychwanegiadau. Cyfleodd pawb eu gweledigaethau o’r Caban Crwydro, gan ymgorffori rhai o’u syniadau cychwynnol, a meddwl am ddylunio ystafell a allai fod yn fawr a bach ar yr un pryd, gan hefyd gynnig lloches i’w defnyddio ym mhob tywydd. Yn y prynhawn, buont yn gweithio ar y cyd mewn grwpiau bach, gan gynhyrchu modelau unigryw ac arloesol gan ddefnyddio cardbord, deunydd lapio swigod ecogyfeillgar, clymau cebl, ffabrig a phren balsa.
Roedd yr ail ddiwrnod yn canolbwyntio ar ddatblygu strwythur mwy fel tîm, gan ymgorffori rhai o’r syniadau o’r diwrnod blaenorol, ac ymunodd Christian Knight o’r cwmni ymgynghori peirianneg strwythurol Lean Structures â’r grŵp. Roedd sgiliau datrys problemau ac adeiladu tîm yn hanfodol wrth i bawb feddwl am ffyrdd o adeiladu'r ystafell, cysylltu ffyn helyg yn ddiogel â chlymau cebl, a darparu cysgod gyda gorchudd o ddeunydd lapio swigod a dalennau o luniadau a wnaed yn ystod y diwrnod blaenorol. Ar ôl ei adeiladu, roedd y gofod yn cynnig gofod croesawgar ac adfyfyriol i’r cyfranogwyr ganu a sgwrsio am eu gweledigaethau o’r Caban Crwydro. Profwyd pa mor gludadwy oedd y prototeip yn ddiweddarach wrth i bawb symud y strwythur o amgylch yr ystafell, cyn iddo gael ei ddatgymalu yn y pen draw. Daeth y gweithdy i ben gyda sesiwn darlunio ac adrodd straeon bendigedig yn llawn chwerthin a dychymyg wrth i syniadau’r plant gael eu gweu i mewn i stori hudolus am ddreigiau, sglefrfyrddau, corsydd a wynebau hapus.
Wrth adael Canolfan Ucheldre, roedd pawb yn llawn syniadau creadigol ar ôl treulio dau ddiwrnod llawn hwyl yn ymgolli mewn meddyliau am ofod i ddychmygu byd gwell, gyda disgwyliad mawr o weld a phrofi’r Caban Crwydro ar waith ar Ynys Môn yn ystod y misoedd nesaf.