
Bioamrywiaeth a'r iaith Gymraeg

Gweithio efo phlant ydy un o fy hoff bethau yn fy swydd i yn Llwyfan Map Cyhoeddus. Ym mis Mehefin eleni, roeddan ni'n ymweld â Ysgol Rhoscolyn er mwyn gwneud gweithgaredd mapio cymdeithasol efo nhw. Aethon ni am dro yn yr ardal o gwmpas yr ysgol, roedden ni'n annog y plant i tynnu lluniau a fideos o'r lleodd sy'n bwysig iddyn nhw. Dw i wastad yn gwerthfawrogi hynna; mae'n cyfle arbennig i weld y byd trwy llygaid plant. Ar y pryd, roedd hi'n uchafbwynt yr haf, a roedd popeth mewn llawn flodau.
Roedden ni'n sgwrsio i'r plant am bethau yn y byd naturiol y roedden nhw'n sylwi ar y cerdded. Roedd blodau gwyddfid bod nhw'n dangos inni sut i flasu y neithdar melys tu mewn, fel gwenyn. Hefyd, roedd llawer o sgerbwd cranciaid wrth ymyl y dŵr, a alwodd y plant ‘y fynwent y crancod.’ Wedyn, roedd cae llawn o geffylau a ddaeth i'r giât i weld nhw. “Edrychwch plant! Ddaw y ceffylau i'ch gweld chi!,” ddudes i.
Fel ysgrifennais mewn blog blaenorol, dw i'n ar fy naith ddysgu Gymraeg. Dw i wedi bod yn trio darllen mwy, ac un o'r llyfrau Cymraeg yn fy nghasgliad ydy Cynefin yr Ardd gan Bethan Wyn Jones ac Iolo Williams. Mae'n lyfr gwych am yr amgylchwedd naturiol. Wrth cwrs, wnes i ei ddangos i'r plant ac i'r athrawes. Yn y llyfr hwn, dw i'n dysgu am enwau planhigion ac anifeiliaid, sy'n un o'r pethau mwyaf didderol am yr iaith Gymraeg. Enwau sy'n mor ddychmugus a rhyfeddol, fel buwch goch gota ar gyfer “ladybird”, gwas y neidr ar gyfer “dragonfly” a chehinen Bedr ar gyfer “daffodil”. Roeddwn i'n synnu at yr enw ar gyfer “daisy”, llygad y dydd, ond ar ôl i mi feddwl am yr ystyr Saesneg llythrennol, “day's eye”, mi wnes i sylweddoli fod o'n swnio fel yr un peth yn y ddwy iaith. Hefyd, dw i'n casglu geiriau newydd mewn grŵpiau sgwrs Cymraeg. Y diwrnod arall, wnes i ddysgu dau gair ar gyfer “toadstool”, caws llaffant a bwyd y boda.
Tybed o le ddaeth yr enwau hyn? Pwy feddylodd ohono? A pham? Dw i ddim yn gwybod, ond pan ddwedodd fy nghydweithiwr Tristan wrthaf fi am lyfr arall am enwau planhigion ac anifeiliaid, wnes i glustfeinio, yn llawn o ddiddordeb. Y llyfr hwn ydy Geiriau Diflanedig gan Robert Macfarlane a Jackie Morris (cyfieithydd Mererid Hopwood). Mi wnes i ei archebu o'r lyfrgell ar unwaith. Llyfr maint ffolio bendigedig, roedd yr awduron creu fo mewn ymateb i gyhoeddiad argraffiad newydd o The Oxford Junior Dictionary. Yn y geiriadur hwn, roedd sawl enwau rhywogaethau planhigion ac anifeiliad sydd wedi cael ei adael allan, er mwyn gwneud lle ar gyfer termau technolegol newydd. Roedd yr awduron yn meddwl bod hyn yn adlewyrchu colli cysylltiad â'r byd naturiol, sy'n mor bwysig ar gyfer lles plant a phobl ifanc. Eu ymateb creadigol nhw roedd Geiriau Diflanedig, llyfr mor farddonol a llawn darluniau hardd a hudolus.
Yn cysylltu'r holl safbwyntiau gwahanol hyn, dw i'n medru gweld perthynas rhwng y bydoedd ieithyddol, amgylcheddol a chymdeithasol. Mae'r prosiect Llwyfan Map Cyhoeddus yn ymwneud yn fawr â'r tri pheth hyn, yng nghyd-destun creu system gynllunio agored a dibynadwy sy'n defnyddio mapio cymunedol i hysbysu penderfyniadau am y trawsnewidiad gwyrdd. Mae cadw bioamrywiaeth yn rhan bwysig iawn o'r trawsnewidiad gwyrdd, fel mae hi'n hybu lles cenedlaethau'r dyfodol. Tybed os fasai rhywogaethau planhigion ac anifeiliaid yn diflannu, fasai eu enwau nhw'n diflannu hefyd, yn union fel mae Geiriau Diflanedig am golli enwau o'r byd naturiol? Ar hyd fy naith ddysgu Gymraeg, dw i'n sylwi mod i'n cofio yn orau y geiriau sy'n cael ei gyfarfod yn fynych. Fel cyhoedd, a fasen ni'n anghofio geiriau am blanhigion ac anifeiliaid sy'n dod yn brinach a diflanedig, wrth i ni golli bioamrywiaeth?
Y peth un sydd ddim yn mynd i ddiflannu ydy'r frwdfrydedd oedd gan blant Ysgol Rhoscolyn y prynhawn heulog hwnnw dros y byd naturiol o'u cwmpas. Hir y parhaed felly!


